Please click to jump to Welsh language
Alcohol Use in Care Homes for Older People in Wales
If you work or live in a care home or are involved in care home leadership, then your insights are exactly what we’re looking for. Your expertise will directly inform research that could impact the lives of thousands of older people in Welsh care homes.
Alcohol Change UK has commissioned Age Cymru and Practice Solutions to research how alcohol is used, managed and perceived in care homes for older people across Wales.
With Wales having one of the UK’s oldest populations, and growing concerns about alcohol-related harm in later life, the study aims to explore the range of current practices, attitudes, and underlying rationales in residential care settings. The key objectives include:
- Mapping current alcohol-related policies and practices in care homes.
- Identifying challenges and good practices in balancing resident autonomy, safety, and well-being.
- Exploring how values around dignity, health, and risk are negotiated in everyday care.
We hope that the findings will inform the development of guidance, training, and policies to improve the quality of life for people living in care homes.
Who is this survey for?
If you are a Care Home Manager, Staff Member, Resident, or a responsible individual, please take 5 minutes to complete this form. Your opinions will help shape good practice around how the use of Alcohol is managed across care homes in Wales.
Please take a moment to fill out the following Surveys:
English Version: https://forms.office.com/e/045jX5KGq4
Welsh Version: https://forms.office.com/e/ZL1MJnM8kW
Deadline: 30 September.
Cymraeg
Y Defnydd o Alcohol Mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn yng Nghymru
Os ydych chi’n gweithio mewn cartref gofal, yn byw mewn cartref gofal neu’n ymwneud ag arweinyddiaeth mewn cartref gofal, dyna’r union fewnwelediad yr ydyn ni’n chwilio amdano. Bydd eich arbenigedd yn llywio’n ymchwil yn uniongyrchol. Gallai’r ymchwil hwn effeithio ar fywydau miloedd o bobl hŷn mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Mae Alcohol Change UK wedi comisiynu Age Cymru a Practice Solutions i ymchwilio i sut mae alcohol yn cael ei ddefnyddio, ei reoli a’i ddeall mewn cartrefi gofal i bobl hŷn ledled Cymru.
O ystyried bod gan Gymru un o’r poblogaethau hynaf yn y Deyrnas Unedig, a’r cynnydd yn y pryderon ynglŷn â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn ddiweddarach mewn bywyd, nod yr astudiaeth yw archwilio’r ystod o arferion, agweddau a rhesymau sylfaenol cyfredol mewn lleoliadau gofal preswyl. Mae’r amcanion allweddol yn cynnwys:
- Mapio polisïau ac arferion presennol sy’n gysylltiedig ag alcohol mewn cartrefi gofal.
- Nodi heriau ac arferion da wrth gydbwyso ymreolaeth, diogelwch a lles preswylwyr.
- Archwilio sut mae gwerthoedd fel urddas, iechyd a risg yn cael eu trafod mewn gofal bob dydd.
Gobeithiwn y bydd y canfyddiadau yn llywio’r gwaith o ddatblygu canllawiau, hyfforddiant a pholisïau i wella ansawdd bywyd i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal.
I bwy mae’r arolwg hwn?
Os ydych chi’n Rheolwr Cartref Gofal, Aelod o Staff, Preswylydd, neu’n unigolyn cyfrifol, a fyddech cystal â chymryd 5 munud i lenwi’r ffurflen hon. Bydd eich barn yn helpu i lunio arfer da o ran y ffordd y mae’r defnydd o Alcohol yn cael ei reoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Cymerwch eiliad i lenwi’r Arolygon canlynol:
Fersiwn Saesneg: https://forms.office.com/e/045jX5KGq4
Fersiwn Gymraeg: https://forms.office.com/e/ZL1MJnM8kW
Dyddiad cau 30 Medi.